Pleidleisiau a Thrafodion - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 15 Chwefror 2023

Amser y cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/
13221


122

------

<AI1>

Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Dechreuodd yr eitem am 13.30

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Dechreuodd yr eitem am 14.19

Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

Dechreuodd yr eitem am 15.03

Atebwyd gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru): Pa sicrwydd wnaiff y Gweinidog ei ddarparu na fydd symud i ffwrdd o gyllido’r cynllun brys ar gyfer bysiau yn arwain at gau llwybrau bysiau ac yn golygu bod gwasanaethau bysiau gwledig yn anhyfyw?

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 Eiliad

Nid oedd unrhyw Ddatganiadau 90 Eiliad

</AI5>

<AI6>

5       Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Lwfans Cynhaliaeth Addysg

Dechreuodd yr eitem am 15.33

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

NDM8187 Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod Llywodraeth Cymru wedi cadw'r lwfans cynhaliaeth addysg, yn wahanol i Lywodraeth y DU yn Lloegr; 

b) nad yw gwerth y lwfans cynhaliaeth addysg yng Nghymru wedi newid ers 2004, ac nad yw'r trothwyon cymhwysedd wedi newid ers 2011;

c) er bod y lwfans cynhaliaeth addysg yn fath pwysig o gymorth ariannol i ddysgwyr ôl-16, nid yw wedi cadw i fyny â phwysau costau byw.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried codiad sy'n gysylltiedig â chwyddiant i werth y lwfans cynhaliaeth addysg ac adolygiad o'r trothwyon.

Cyd-gyflwynwyr

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr)

Carolyn Thomas (Gogledd Cymru)

Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

37

0

13

50

Derbyniwyd y cynnig.

</AI6>

<AI7>

6       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Yr ymosodiad ar Wcráin a chefnogi ffoaduriaid o Wcráin

Dechreuodd yr eitem am 16.14

NDM8204 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod y mis hwn yn nodi blwyddyn ers ymosodiad anghyfreithlon Vladimir Putin ar Wcráin.

2. Yn condemnio'r ymosodiad ar Wcráin, a'r ymddygiad ymosodol parhaus yn ei herbyn, yn erbyn ei sofraniaeth ac yn erbyn ei chyfanrwydd tiriogaethol gan Ffederasiwn Rwsia.

3. Yn cymeradwyo gwytnwch pobl Wcráin yn wyneb creulondeb Rwsia.

4. Yn croesawu'r cymorth milwrol, ariannol a dyngarol a ddarperir i Wcráin gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

5. Yn diolch i bobl Cymru am eu hymateb i'r gwrthdaro, gan gynnwys eu haelioni a'r croeso a roddwyd i ffoaduriaid o Wcráin.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi cynllun tymor hir i gefnogi ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

</AI7>

<AI8>

7       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Hyfforddiant sefydlu ar gyfer plant â nam ar eu golwg

Dechreuodd yr eitem am 17.10

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:

NDM8205 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi ymchwil gan Cŵn Tywys Cymru sy'n awgrymu y byddai 2,000 o blant â nam ar eu golwg yn elwa o hyfforddiant sefydlu.

2. Yn nodi ymhellach bod hyfforddiant sefydlu yn hanfodol ar gyfer datblygu sgiliau byw'n annibynnol, symudedd personol a llywio ar gyfer plant â nam ar eu golwg.

3. Yn siomedig nad yw nifer o awdurdodau lleol Cymru yn cynnig hyfforddiant sefydlu, er gwaethaf eu dyletswydd i roi sylw dyledus i Erthygl 26 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) darparu cynllun gweithlu ar frys ar wasanaethau sefydlu; a

b) sicrhau bod awdurdodau lleol yn cyflogi o leiaf un arbenigwr sefydlu i bob 100 o blant â nam ar eu golwg. 

Erthygl 26 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau (Saesneg yn unig)

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

51

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn cynnig wedi’i ddiwygio. Felly, gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)

Dileu pwyntiau 3 a 4 a rhoi yn eu lle:

3.   Yn galw ar holl awdurdodau lleol Cymru i gynnig hyfforddiant sefydlu, yn unol â’u dyletswydd i roi sylw dyledus i Erthygl 26 o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

4.   Yn galw ar Lywodraeth Cymru i drafod â rhanddeiliaid perthnasol i helpu i ddatblygu cynllun gwella ar gyfer gwasanaethau sefydlu i blant â nam ar eu golwg, gan gynnwys ystyried eu hanghenion o ran hyfforddiant a sut i’w diwallu.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

25

0

26

50

Fel sy’n ofynnol o dan Reol Sefydlog 6.20, defnyddiodd y Llywydd ei phleidlais fwrw drwy bleidleisio yn erbyn y gwelliant. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.

Gan fod y Senedd wedi gwrthod y cynnig heb ei ddiwygio, ac wedi gwrthod y gwelliant i'r cynnig, gwrthodwyd y cynnig.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.44, canwyd y gloch am 17.48 a gohiriwyd y cyfarfod tan y cyfnod pleidleisio.

</AI8>

<AI9>

8       Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am 17.54

</AI9>

<AI10>

Crynodeb o Bleidleisiau

</AI10>

<AI11>

9       Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 17.57

NDM8191 Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Strwythur gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru: ydyn ni wedi'i gael yn iawn?

</AI11>

<AI12>

10    Dadl Fer

Dechreuodd yr eitem am 18.18

NDM8203 Sian Gwenllian (Arfon)

Gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn y gogledd: cyflwyno’r ddadl dros wella gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol a'r ddarpariaeth ohonynt gan gynnwys ar gyfer teuluoedd Cymraeg eu hiaith

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

Daeth y cyfarfod i ben am 18.45

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 28 Chwefror 2023

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.1          FIELD_TITLE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

2.2          FIELD_TITLE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>